|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
|
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 6 Mawrth 2012 |
|
|||
|
Amser: |
08:30 - 08:47 |
|
|||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black William Graham Jane Hutt Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
Anna Daniel (Clerc)
|
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, y Dirprwy Lywydd Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Sulafa Thomas, Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
Roedd Rhodri Glyn Thomas yn dirprwyo ar ran Jocelyn Davies, a anfonodd ei ymddiheuriadau.
2. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor i’w cyhoeddi.
3. Trefn Busnes
3(i) Busnes yr wythnos hon
Ddydd Mawrth, bydd y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3(ii) Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3(iii) Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu amser ar gyfer yr eitem o fusnes a ganlyn:
Dydd Mercher 28 Mawrth 2012
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Adfywio Canol Trefi (60 munud)
Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad.
4. Pwyllgorau
4(i) Sesiwn i graffu ar waith y Prif Weinidog
Trafododd y Pwyllgor Busnes a ddylai sefydlu pwyllgor a fyddai’n gyfrifol am graffu ar waith y Prif Weinidog. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur gan yr ysgrifenyddiaeth cyn toriad y Pasg yn nodi’r opsiynau ar gyfer cylch gwaith y pwyllgor, ei faint a’r amseroedd cyfarfod arfaethedig. Bydd y mater yn cael ei drafod ymhellach yn ystod yr adolygiad 12 mis o strwythur y pwyllgor y tymor nesaf.
5. Deddfwriaeth
5(i) Confensiynau gweithredu pwyllgorau wrth ystyried deddfwriaeth
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur yn nodi’r confensiynau a oedd ar waith ar gyfer gweithredu pwyllgorau deddfwriaeth y Trydydd Cynulliad.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid defnyddio’r confensiynau diwygiedig yn y Pedwerydd Cynulliad, oherwydd bod y pwyllgorau pwnc perthnasol bellach yn craffu ar Filiau. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn paratoi adroddiad drafft ar y confensiynau diwygiedig i’r Pwyllgor Busnes ei gymeradwyo yr wythnos nesaf.
5(ii) Memoranda Cydsyniad a osodwyd mewn perthynas â Gorchmynion o dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011
Nododd y Pwyllgor Busnes y ddau Femorandwm Cydsyniad a osodwyd mewn perthynas â’r Gorchmynion o dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011. Cytunodd yr ysgrifenyddiaeth i hysbysu’r Rheolwyr Busnes pe bai’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn penderfynu gwahodd pwyllgorau eraill i graffu ar y Gorchmynion.
Busnes Arall
Trafododd y Pwyllgor Busnes y posibilrwydd y bydd gweithredu diwydiannol ddydd Mercher 28 Mawrth 2012. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn paratoi papur ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf yn nodi’r opsiynau os bydd gweithredu diwydiannol gan PCS.